Model Newydd i’r Sîn Roc

3 Gor

Wi wedi meddwl ers meityn y byddai’r sîn roc Cymraeg lawer yn gryfach tase bandiau ac hyrwyddwyr yn disgwyl ar ffyrdd newydd o rannu eu cerddoriaeth / llenwi gigs.

Mae’r arbrawf hwn gan y Kaiser Chiefs yn ddiddorol:

Yn lle prynnu albwm ar CD / lawrlwytho albwm neu’r caneuon unigol ar ffurf mp3 ayb, mae modd dewis 10 cân o 20 ar eu gwefan i ffurfio eich albwm eich hunan. Y prynwr sy’n dewis y drefn, a’r delweddau sy’n mynd gyda’r albwm. Mae hyd yn oed modd i bobl werthu eu fersiynau nhw o’r albwm, ac os gwnan nhw hynny, mae nhw’n cael £1 o’r pris.

Mae’n debyg y bydd y Kaiser Chiefs yn rhyddhau albwm 13 trac nes mlaen, gyda’r dewis o’r traciau yn seiliedig ar boblogrwydd traciau ar yr albwm DIY ‘ma – syniad diddorol, er efallai nad oes digon o brynwyr o gerddoriaeth Gymraeg i wneud y ddau beth.

Yn ddiddorol, mae Tim Kastelle a Marion Gibbon (Dolen yn erthygl Kastelle) yn teimlo cysylltiad clos gyda’u halbymau personol, oherwydd eu bod yn waith caled i’w ffurfio (hyd at awr gyda phapur a phensil, yn ôl Gibbon).

Mae wedi costio cryn dipyn i greu’r dudalen we sydd yn galluogi’r dewis a dethol, ond unwaith mae’r model mas mynna, mae fel arfer yn haws copio na chreu o ddim.

Tagiau: , , ,

Gadael Ymateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Dilyn

Derbyn pob cofnod newydd yn syth i'ch Blwch Derbyn